Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023

Mae’r Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (“y Gorchymyn”) yn Orchymyn ar gyfer Prydain Fawr gyfan ac fe’i drafftiwyd gan Lywodraeth y DU gyda mewnbwn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Llywodraeth y DU felly sydd wedi darparu’r ymateb canlynol i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad dyddiedig 30 Hydref 2023.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:

Mae’r Pwyllgor yn gywir mai dim ond at ddibenion Penodau 1 a 3 o Ran 3 o’r Gorchymyn y mae’r termau hyn wedi eu diffinio, ac y byddai wedi bod yn well eu diffinio at ddibenion Rhan 4 hefyd. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth y DU o’r farn y gallai unrhyw amheuaeth godi ynghylch yr hyn a olygir gan y termau hyn yng nghyd-destun erthygl 77, sy’n ymwneud â’r wybodaeth a gaiff ei rhoi i’r sawl sy’n cymryd rhan yn y cynlluniau masnachu am eu gweithgarwch ym mhob un o’r cynlluniau. Bydd rhwymedigaeth ar weinyddwr y cynlluniau (yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth) i baratoi a darparu’r wybodaeth o dan erthygl 77 a bydd yn ymwybodol iawn bod lwfansau CRTS a VRTS wedi eu bancio yn cymryd eu hystyr o’r Penodau perthnasol yn Rhan 3 o’r Gorchymyn. Mae Llywodraeth y DU yn ystyried y gall canllawiau’r cynllun hefyd wneud hyn yn glir i’r sawl sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:

Nid yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gymwys i’r Gorchymyn (gweler adran 3 o’r Ddeddf honno). Mae Deddf Dehongli 1978 yn gymwys i’r Gorchymyn. Mae adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978 yn darparu, pan fo Deddf yn rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth (sy’n cynnwys Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor -gweler adran 21), fod i ymadroddion a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth honno yr ystyr sydd iddynt yn y Ddeddf, oni bai bod y bwriad i’r gwrthwyneb yn ymddangos. Felly, nid yw Llywodraeth y DU fel arfer yn ailadrodd diffiniadau o’r fath yn nhestun offerynnau statudol, a byddai mewn perygl o gael ei beirniadu gan Gyd-bwyllgor Senedd y DU ar Offerynnau Statudol pe bai’n gwneud hynny.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:

Mae'r Pwyllgor yn gywir yn y ddau achos. Fodd bynnag, i’r graddau na fyddai’r diwygiadau yr honnir eu bod wedi eu gwneud gan erthygl 106(16)(f) yn cael unrhyw effaith, ni fyddai cyfeiriad parhaus ym mhwynt 1.2.4 yn Rhan A o Atodiad 3 i Reoliad (EU) 2019/631 at y fersiwn ddomestig o Atodiad XXI i Reoliad (EU) 2017/1151 yn ogystal â fersiwn yr Undeb Ewropeaidd ohono yn broblematig. Mae hyn am fod pwynt 1 yn Rhan A o Atodiad 3 yn ymdrin â data manwl sydd i’w cofnodi a’u hadrodd ynghylch cerbydau masnachol ysgafn yng Ngogledd Iwerddon. Mae pwynt 1.2.4 yn ymdrin ag adrodd ar allyriadau CO2 cerbydau sylfaen penodol, sydd i’w cyfrifo gan ddefnyddio’r un dull â’r hyn a ddefnyddir ar gyfer cymeradwyaeth math y DU (Gogledd Iwerddon) neu’r Undeb Ewropeaidd, yn ddarostyngedig i addasiadau penodol. Gan y byddai cymeradwyaeth math y DU (Gogledd Iwerddon) a’r Undeb Ewropeaidd yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio fersiwn yr Undeb Ewropeaidd o Atodiad XXI i Reoliad (EU) 2017/1151, ni all fod unrhyw amheuaeth mai cyfundrefn yr Undeb Ewropeaidd ar gymeradwyaeth math yw’r un sy’n berthnasol at ddibenion y ddarpariaeth hon.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:

Mae’r Pwyllgor yn gywir bod dau gyfeiriad at “light commercial vehicle” ym mhwynt 2 yn Rhan A o Atodiad 3 i Reoliad (EU) 2019/631, ac mae’r ddau yn ymwneud â cherbydau masnachol ysgafn yng Ngogledd Iwerddon. Fodd bynnag, mae pwynt 2 yn cynnwys deunydd atodol yn unig ynghylch yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mhwynt 1, sef yr wybodaeth sydd i’w chasglu am gerbydau masnachol ysgafn yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n nodi o ble mae’r wybodaeth i’w chymryd a pha fàs sy’n berthnasol. Nid oes amheuaeth felly mai’r cerbydau masnachol ysgafn y cyfeirir atynt ym mhwynt 2 yw’r cerbydau masnachol ysgafn yng Ngogledd Iwerddon hynny y cyfeirir atynt ym mhwynt 1.